Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Rywioldeb, Rhywioli a Chydraddoldeb Plant.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Dyddiad: 15 Gorffennaf 2014
Lleoliad: Tŷ Hywel.
Yn bresennol: Jocelyn Davies AC (Cadeirydd), Ann Jones AC, Aled Roberts AC.
1 Croeso
Cynhaliwyd y cyfarfod cyffredinol blynyddol brys ar fyr rybudd er mwyn penodi cadeirydd ac ysgrifennydd ar gyfer y grŵp trawsbleidiol.
Daeth y rheolau newydd sy'n nodi sut y dylai'r Grwpiau Trawsbleidiol weithredu i rym ar ddechrau tymor yr hydref ym mis Medi 2013. Mae'r rheolau yn ei gwneud yn ofynnol bod grwpiau yn cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol o fewn 12 mis o'r dyddiad y cawsant eu cofrestru.
Roedd y grŵp yn bwriadu cynnal ei gyfarfod cyffredinol blynyddol ar 6 Mai 2014; newidiwyd y cyfarfod yn gyfarfod cyffredinol arferol yn ystod y cyfarfod oherwydd bod yr agenda yn llawn ac y cafwyd nifer o ymddiheuriadau gan Aelodau'r Cynulliad.
2 Ymddiheuriadau
Angela Burns AC
3 Ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd
Penodwyd Jocelyn Davies AC yn Gadeirydd.
Penodwyd yr NSPCC i weithredu fel yr ysgrifenyddiaeth a bydd yn parhau â'r gwaith hwnnw.
6 Unrhyw fater arall.
Dim
CLOI